Llinell Gymorth Porth Eiriolaeth Caerdydd a'r Fro: Gweithredu o Hyd
Gyda'r holl ansicrwydd Covid-19 ar hyn o bryd, rydym eisiau tawelu'ch meddwl gan ddweud ein bod yn gweithredu fel yr arfer ac yn dilyn holl gyngor y llywodraeth. Mae'r tîm o gynghorwyr eiriolwyr yn gallu gweithio o bell ac rydym yma i'ch cefnogi o hyd.
Rydym yn gallu cynnig cymorth os ydych chi dros 18 oed, yn byw yng Nghaerdydd neu'r Fro, ac yn derbyn gofal / cefnogaeth gymdeithasol gan wasanaethau cymdeithasol (neu'n credu y dylech chi), neu os ydych chi'n weithiwr gofal / cefnogol proffesiynol, ymarferwr, gofalwr, neu'n berson arall sydd yn pryderu am ofal a chefnogaeth gymdeithasol rhywun.
Gyda'r bwriad o fod yn borth galw cyntaf, mae'r llinell gymorth ar y ffôn yma yn rhad ac am ddim. Cysylltwch ar 0808 8010 577 i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud ag eiriolaeth.
Byddem yn eich diweddaru am unrhyw newidiadau, ac os ydych chi ein hangen, rydym yma i helpu o hyd!
Eich cynorthwyo i wneud synnwyr o'ch sefyllfa, eich gofal cymdeithasol, anghenion cefnogaeth a'r opsiynau sydd yn agored i chi.
Rhoi'r wybodaeth, cyngor a chymorth fel y gallech ddarganfod y gwasanaethau cywir i gyrraedd eich anghenion.
Eich cynorthwyo i ddeall gwybodaeth, trafodaethau, a phrosesau fel y gallech wneud penderfyniadau gwybodus.
Eich cynorthwyo i sicrhau bod rhywun yn gwrando, siarad ar eich rhan, eich cyfeirio at wasanaethau eiriolaeth - gan gynnwys eiriolwr proffesiynol annibynnol (EPA).
YDY PORTH EIRIOLAETH CAERDYDD A'R FRO YN ADDAS I MI?
YDY: Os ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn, yn byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, ac yn derbyn gofal cymdeithasol/cefnogaeth gan wasanaethau cymdeithasol (neu yn credu y dylech chi)
YDY: Os ydych chi'n weithiwr gofal/cefnogol proffesiynol, ymarferwr, gofalwr, neu'n berson sydd yn poeni am ofal a chefnogaeth gymdeithasol rhywun arall